Yn 2017, ar 200 mlwyddiant ei agor, aethom ati i lansio ymgyrch i adnewyddu ac ailagor Tŵr Marcwis.

 

Mae Tŵr Marcwis yn rhan bwysig, eiconig o’n treftadaeth leol ac mae’n sefyll yn urddasol 106 metr uwchben Afon Menai.

Cafodd ei adeiladu yn 1817 fel cofeb yn dilyn cyfraniad pwysig Marcwis cyntaf Môn ym Mrwydr Waterloo. Dros y 200+ mlynedd diwethaf mae’r Tŵr wedi bod yn ofod cymunedol ac atyniad twristaidd poblogaidd.

Bu ymwelwyr a thrigolion lleol fel ei gilydd yn mwynhau concro 115 gris y tŵr i fwynhau golygfeydd panoramig o Ogledd Orllewin Cymru, yn cynnwys Eryri, Ynys Môn a Phen Llŷn.

Mae elusennau lleol hefyd wedi defnyddio Tŵr Marcwis fel ffocws gwerthfawr ar gyfer gweithgareddau codi arian.

Yn anffodus, cafodd y Tŵr ei gau i’r cyhoedd yn 2012, pan gafwyd cyngor nad oedd y grisiau mewnol yn ddiogel mwyach.

Mae’r Safle a’r Tŵr yn eiddo i elusen, ymddiriedolaeth o’r enw yr Anglesey Column Trust (Rhif cof: 1173731).

Rydym yn grŵp o wirfoddolwyr lleol, wedi’i gadeirio gan y Marcwis presennol, sy’n teimlo’n angerddol dros adnewyddu safle’r Tŵr i’w ysblander blaenorol fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael mwynhau popeth sydd gan y tirnod arbennig yma i’w gynnig. 


NEWYDDION! Chwilio am ymgynghorwyr…

Rydym yn chwilio am ymgynghorydd, asiantaeth neu gonsortiwm cymwys a phrofiadol i ddarparu cefnogaeth yn y maes digidol, hyrwyddo a marchnata i Fwrdd Ymddiriedolwyr a Chydlynydd Prosiect ACT. Mwy o wybodaeth am sut i ymgeisio yma.

 

Cwestiynau Cyffredin

 

+ BETH YW'R NEWYDDION DIWEDDARAF?

Datganiad i’r Wasg

22 Rhagfyr 2018

Tŵr Marcwis yn derbyn cefnogaeth y Loteri Genedlaethol

Cyhoeddwyd heddiw bod yr Anglesey Column Trust, Llanfairpwllgwyngyll, wedi derbyn cefnogaeth gychwynnol gan y Loteri Genedlaethol* ar gyfer adfer ac adnewyddu Tŵr Marcwis. Gwnaed hyn yn bosibl gan bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol. Nod y prosiect yw adfer y Tŵr yn gyfangwbl fel ei bod yn ddiogel i bobl ddringo i’w frig unwaith eto, yn ogystal â datblygu’r holl safle at fudd cyhoeddus, yn benodol adnewyddu’r bwthyn rhestredig sydd ar y safle ac adeiladu platfform gwylio hygyrch fel bod modd i bawb fwynhau’r golygfeydd anhygoel sydd i’w cael diolch i leoliad godidog y Tŵr.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) wedi dyrannu cyllid datblygu o £59,800 i helpu’r Anglesey Column Trust i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ymgeisio am grant llawn gan y Loteri Genedlaethol yn y dyfodol. Wedi’i drwsio a’i ddiogelu, bydd safle’r Tŵr yn gynaliadwy yn y tymor hir. Bydd y bwthyn wrth droed y Tŵr yn cynnwys ystafell de, siop, gwybodaeth am dreftadaeth a phensaerniaeth y Tŵr a gofod ar gyfer gweithgareddau addysgiadol ac ymweliadau gan ysgolion. Bydd y prosiect yn cynnwys gosod cynllun dehongli ledled y safle a fydd yn dweud straeon am yr ardal leol a’r hanes nodedig sydd ynghlwm â’r Tŵr.

Cafodd Tŵr Marcwis ei adeiladu yn 1817 gydag arian a godwyd drwy danysgrifiad cyhoeddus, fel cofeb yn dilyn cyfraniad pwysig Marcwis cyntaf Môn ym Mrwydr Waterloo. Dros y 200 mlynedd diwethaf mae’r Tŵr wedi bod yn ofod cymunedol ac atyniad twristaidd poblogaidd. Bu ymwelwyr a thrigolion lleol fel ei gilydd yn mwynhau concro 115 gris y Tŵr i fwynhau golygfeydd panoramig o Ogledd Orllewin Cymru, yn cynnwys Eryri, Ynys Môn a Phen Llŷn. Mae elusennau lleol hefyd wedi defnyddio Tŵr Marcwis fel ffocws gwerthfawr ar gyfer gweithgareddau codi arian. Yn anffodus, cafodd y Tŵr ei gau i’r cyhoedd yn 2012, pan gafwyd cyngor nad oedd y grisiau mewnol yn ddiogel mwyach.

Wrth dderbyn y newyddion da am y cyllid datblygu, meddai Alex, 8fed Marcwis Môn a Chadeirydd Pwyllgor yr Anglesey Column Trust: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn y gefnogaeth hon, diolch i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol. Ers i ni lansio’r ymgyrch i adnewyddu ac ailagor y Tŵr, mae’r gefnogaeth a’r adborth positif rydym wedi eu derbyn gan bobl leol a grwpiau diddordeb wedi bod yn arbennig. Yr ymateb yr ydym yn ei gael ydi bod pobl eisiau gallu mwynhau safle’r Tŵr unwaith eto a bod yr hanes a threftadaeth sy’n gysylltiedig ag o yn bwysig iawn i bobl. Mae’n wych gwybod ein bod nawr gam yn nes at ddiogelu’r safle ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Nodiadau golygyddol

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

*Caiff ceisiadau i Gronfa Dreftadaeth y Loteri eu haseseu mewn dwy rownd. I dechrau, mae prosiect Adfer ac Adnewyddu Tŵr Marcwis wedi derbyn dyraniad cyllid datblygu rownd un o £59,800 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, er mwyn galluogi i’r Anglesey Column Trust ddatblygu eu cynlluniau ymhellach. Caiff ceisiadau manwl eu hasesu gan yr HLF wedyn mewn ail rownd, lle caiff penderfyniad terfynol ei wneud ar y dyraniad cyllid llawn o £640,000.

Diolch i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, gallwn fuddsoddi arian i helpu pobl ledled y DU i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth sy’n bwysig iddynt - o’r archaeoleg o dan ein traed i’r parciau hanesyddol a’r adeiladau a garwn, o atgofion gwerthfawr a chasgliadau i fywyd gwyllt prin. www.hlf.org.uk. Dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLottery a #HLFsupported.

+ PAM YDYCH CHI’N ARGYMELL ADNEWYDDU TŴR MARCWIS?

Mae Tŵr Marcwis yn rhan bwysig ac eiconig o’n treftadaeth leol.

Credwn bod pobl yr Ynys yn gwerthfawrogi’r Tŵr yn fawr iawn, a bod ganddynt deimlad o berchnogaeth hanesyddol drosto.

Mae ymwelwyr wedi teithio o bedwar ban byd i ddringo 115 gris y Tŵr a mwynhau’r olygfa banoramig unigryw o’i gopa.

Ers i’r Tŵr fod ar gau yn y blynyddoedd diweddar mae’r wasg leol wedi cyhoeddi sawl erthygl amdano ac am y golled i’r gymuned, ac yn fwy diweddar mae cynghorwyr a thrigolion lleol wedi dweud y byddai ganddynt ddiddordeb helpu i sicrhau ateb i’r broblem er mwyn ei ailagor.

Rydym yn hyderus y byddai adnewyddu Tŵr Marcwis yn arwain at gynyddu’r nifer o ymwelwyr, nid yn unig â safle Tŵr Marcwis ond hefyd â siopau, gwestai ac atyniadau lleol eraill.

+ LLE MAE TŴR MARCWIS?

Saif Tŵr Marcwis mewn 4 acer o goetir yn Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch. Yn ogystal â’r gofeb rhyfel Napoleonaidd amlwg, sy’n 89 troedfedd o uchder, mae’r safle’n cynnwys bwthyn bychan a maes parcio.

+ Pwy sydd berchen Tŵr Marcwis?

Mae’r Safle a’r Tŵr yn eiddo i elusen, sef ymddiriedolaeth o’r enw Anglesey Column Trust, a sefydlwyd yn 2007 i edrych ar ôl y gofeb. Cafodd yr ymddiriedolaeth ei chofrestru’n swyddogol fel elusen ym mis Gorffennaf 2017 (rhif cof: 1173731).

Amcanion yr Ymddiriedolaeth yw:

“Hyrwyddo addysg y cyhoedd trwy sicrhau mynediad i Dŵr Marcwis, sef Cofeb Rhyfel Napoleonaidd ar Ynys Môn, yn ogystal â gofalu am gadwraeth, gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio’r Gofeb.”

Caiff yr Ymddiriedolaeth ei chynghori gan bwyllgor. Grŵp o wirfoddolwyr lleol sydd ar y pwyllgor, a chaiff ei gadeirio gan y Marcwis Môn presennol. Ein prif ffocws ar hyn o bryd yw denu cyllid er mwyn adnewyddu safle’r Tŵr.

Mae’r Marcwis presennol wedi cyfrannu arian tuag at gostau cychwynnol y prosiect.

+ PA WAITH SYDD EI ANGEN ER MWYN ADNEWYDDU’R SAFLE?

Yn 2016, cafodd adroddiad gan beirianwyr strwythurol ei gomisiynu gan yr Anglesey Column Trust. Casgliad yr adroddiad hwn oedd bod Tŵr Marcwis yn strwythurol ddiogel ond bod angen gwaith sylweddol er mwyn adnewyddu’r grisiau mewnol.

Nodwyd y byddai angen gwaith pellach er mwyn uwchraddio’r mynediad allanol i gwrdd â safonau modern, yn ogystal â diogelu’r rheiliau metel o amgylch y platfform ar gopa’r tŵr ac adnewyddu’r bwthyn ar y safle i ddarparu gofod ar gyfer rhannu gwybodaeth ac addysgu pobl am y safle.

+ SUT YDYCH CHI AM GYLLIDO’R GWAITH ADNEWYDDU?

Mae’n debygol y bydd pob senario yn cynnwys cyfuniad o arian grant gan gyrff sector cyhoeddus a thrydydd sector, rhoddion a chyllid a godir drwy ymgyrchoedd cyhoeddus.

Yn y cyfnod cynnar, ein blaenoriaeth oedd targedu ffynonellau cyllid yn benodol i’n galluogi i gyflogi arbenigwyr i’n helpu i ddatblygu’r achos busnes a sgopio sut yn union y gallwn gyflawni’n hamcan o ailagor y Tŵr a gwneud y prosiect yn gynaliadwy yn y tymor hir. Yn gynnar yn 2018 llwyddom i ddenu grantiau i’n helpu gyda chyfnod datblygu’r prosiect ac rydym yn hynod ddiolchgar i’r sefydliadau isod am eu cyfraniadau:

Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones: £2,000

Grant Hyfywedd Prosiect gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol: £5,000

Ymddiriedolaeth Elusennol Môn: £10,000

Gyda’r cyllid hwn bu modd i ni apwyntio ymgynghorwyr i’n helpu i baratoi Cam 1 cais am gyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a gyflwywyd ym mis Awst 2018. Roeddem yn teimlo y byddai Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n bartner cyllido perffaith oherwydd yr holl hanes a threftadaeth cyfoethog sydd ynghlwm â’r Tŵr.

Roeddem wrth ein boddau yn gallu datgan ym mis Rhagfyr 2018 ein bod wedi derbyn cefnogaeth gychwynnol gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect Adfer ac Adnewyddu Tŵr Marcwis.

Caiff ceisiadau i Gronfa Dreftadaeth y Loteri eu haseseu mewn dwy rownd. I dechrau, mae’r prosiect hwn wedi derbyn dyraniad cyllid datblygu rownd un o £59,800 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, er mwyn ein galluogi i ddatblygu ein cynlluniau ymhellach. Caiff ceisiadau manwl eu hasesu gan yr HLF wedyn mewn ail rownd, lle caiff penderfyniad terfynol ei wneud ar y dyraniad cyllid llawn o £640,000.

+ BETH YN UNION MAE’R PROSIECT YN EI GYNNWYS?

Bydd y prosiect yn:

  • Trwsio ac ailagor y Tŵr ei hun.
  • Adrodd straeon am dreftadaeth lleol a chenedlaethol.
  • Adeiladu platfform gwylio hygyrch anhygoel ar gyfer pobl na allant ddringo’r 115 gris.
  • Creu mynediad i’r anabl i gofeb ar gyfer un o arwyr rhyfel anabl mwyaf nodedig y DU.
  • Ailfodelu’r bwthyn yn ganolfan ar gyfer ymwelwyr.
  • Cynnig cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli a gweithgareddau cymunedol.
  • Sicrhau dyfodol cynaliadwy’r Tŵr.
  • Darparu ychwanegiad sylweddol i dwristiaeth ar Ynys Môn.

Mae’n hollbwysig i ni bod Tŵr Marcwis yn dod yn ased gwerthfawr ar gyfer y gymuned leol a’n bod yn sicrhau profiad mor werthfawr â phosib ar gyfer ymwelwyr y Tŵr yn y dyfodol.

+ FAINT MAE’R PROSIECT ADNEWYDDU YN DEBYGOL O’I GOSTIO?

Nododd adroddiad cychwynnol y peirianwyr strwythurol y byddai’r gwaith adnewyddu strwythurol yn unig (heb sôn am yr elfennau ategol) yn costio tua £200,000, felly roeddem yn gwybod o’r cychwyn bod hwn am fod yn brosiect sylweddol a fyddai’n gofyn am lawer o waith codi arian.

Cyn cyflwyno’n cais Cam 1 i Gronfa Dreftadaeth y Loteri cafodd gwaith cynllunio busnes manwl ei gynnal. Dangosodd hwn, er mwyn adnewyddu a diogelu’r safle a’i holl strwythurau, sicrhau mynediad i bawb, adrodd straeon am dreftadaeth y safle a gwneud y prosiect yn gynaliadwy yn y tymor hir, y byddai angen dros £1M arnom.

+ SUT ALLA I GYMRYD RHAN?

Rydym yn awyddus i siarad gydag unigolion, sefydliadau a chymunedau lleol wrth i’r prosiect ddatblygu.

Byddwn hefyd yn lansio apeliadau penodol am wybodaeth neu syniadau am bynciau amrywiol, yn ogystal â rhannu’r newyddion diweddaraf am y prosiect o bryd i’w gilydd.

Er mwyn derbyn yr wybodaeth hon, tanysgrifiwch i’n rhestr gyswllt isod.

Ar hyn o bryd, rydym yn gofyn am unrhyw luniau neu gynnwys fideo proffesiynol a fyddai’n ein helpu yn ystod y cam cynnar hwn i arddangos Tŵr Marcwis mewn cyflwyniadau ac unrhyw weithgaredd cyfathrebu arall.

+ BETH YW HANES TŴR MARCWIS?

Yn dilyn Brwydr Waterloo yn 1815 anrhydeddwyd Iarll Uxbridge, a oedd yn ddirprwy o dan Wellington ac yn arweinydd marchoglu’r cynghreiriaid, drwy ei wneud yn Farcwis Môn.

Collodd y Marcwis ei goes dde yn ystod y frwydr. I ddangos eu balchder yng nghyfraniad a dewrder y Marcwis, cododd y gymuned leol ar Ynys Môn arian er mwyn codi cofeb ar dir uchel yn edrych dros Afon Menai a chartref y teulu ym Mhlas Newydd, Llanfairpwll.

Cwblhawyd y Tŵr yn 1817 ac felly 2017 oedd ei 200 mlwyddiant. Yn dilyn marwolaeth y Marcwis cyntaf yn 1854, codwyd arian pellach drwy danysgrifiad cyhoeddus er mwyn gosod cerflun efydd ar gopa’r Tŵr. Gosodwyd y cerflun yn 1860.

Gwnaed Tŵr Marcwis yn adeilad rhestredig Gradd II* ar 2il Mai 1952, gan ei fod yn: “Heneb goffa drawiadol, yn nodedig oherwydd ansawdd ei phensaernïaeth a graddfa'r obelisg Groegaidd gwreiddiol ac am y ffigur rhagorol a osodwyd arni. Nodwedd amlwg wedi’i chynnal a’i chadw’n dda ar lannau Gogledd Orllewin Afon Menai.”

+ BETH SY’N ARBENNIG AM SAFLE’R TŴR?

Mae Tŵr Marcwis yn dirnod amlwg iawn ar Ynys Môn, gan sefyll yn urddasol 106m uwchben Afon Menai. Mae’n nythu ynghanol coetir aeddfed o ddail cymysg sy’n gynefin naturiol i wiwerod coch.

Dyluniwyd y Tŵr yn 1816-17 gan Thomas Harrison, pensaer pwysig ac uchel iawn ei barch yn ei ddydd. Cafodd y ffigur efydd ei greu gan y cerflunydd fictorianaidd arbennig, Matthew Noble, a’i godi yn 1860 yn dilyn marwolaeth y Marcwis cyntaf.

Lleolir y Safle nid nepell o Bont Britannia Robert Stephenson a cheir golygfeydd arbennig hefyd o Bont Menai, campwaith Thomas Telford.

Mae Tŵr Marcwis hefyd yn gyrchfan allweddol ar gyfer pobl sy’n ymddiddori yn hanes yr aberth eithaf a wnaed gan filwyr ym Mrwydr Waterloo.

Yn dilyn buddugoliaeth yn Waterloo yn 1815 daeth diwedd i’r Rhyfeloedd Napoleonaidd a laddodd 5 miliwn o bobl, ac o ganlyniad dechreuodd Ewrop fwynhau cyfnod o heddwch a ffyniant.

Saif y Tŵr ei hun ar ddarn o dir creigiog a serth sydd o gryn ddiddordeb daearegol. Mae hwn ar gyrion Llanfairpwll, y “pentref bach sy’n fawr ei sôn”, a hynny am nifer o resymau, yn cynnwys fel man cychwyn Sefydliad y Merched ym Mhrydain.